Negyddol Arfaethedig Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
28 Ionawr 2019

Pn(5)011 – Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (DiwygiadauAmrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i’r asesiad amgylcheddol o gynlluniau a rhaglenni ac i’r asesiad effaith amgylcheddol ym materion cynllunio gwlad a thref ac amaethyddiaeth.

Mae’r newidiadau a wneir gan yr offeryn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y cyfundrefnau rheoliadol cyfredol yn parhau i weithredu’n effeithiol ar ôl i’r DU ymadael â’r UE.

          Mae’r diwygiadau a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn cynnwys:

-                Newid cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd i gyfeiriadau at gyfraith / rhwymedigaethau’r UE a ddargedwir;

-                Disodli cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd gyda chyfeiriadau at y ddeddfwriaeth ddomestig sydd wedi trosi deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd;

-                Newid cyfeiriadau at "Aelod-wladwriaethau", yn enwedig yng nghyd-destun y gyfraith ar lefel Aelod-wladwriaethau, i ‘unrhyw gyfraith o unrhyw ran o’r DU’;

-                Diweddaru’r ddarpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r DU hysbysu ‘gwladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd’ ynghylch effeithiau amgylcheddol trawsffiniol i adlewyrchu statws newydd y DU y tu allan i’r UE;

-                Cynnwys testun o’r Gyfarwyddeb Asesu Effeithiau Amgylcheddol;

-                O dan y gyfundrefn ar gyfer amaethyddiaeth, disodli’r cyfeiriad at y Comisiwn Ewropeaidd gyda chyfeiriad at Weinidogion Cymru, a mewnosod gofyniad iddynt ymgynghori â chyrff penodedig cyn gwneud penderfyniad (gweler rheoliad 5(9).

Gwneir y diwygiadau sy’n weddill o dan Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd 1972, gan gynnwys cywiro cyfeiriadau, sydd wedi dyddio, at gyfraith Ewrop.

Cafodd y Rheoliadau hyn eu gosod at ddibenion sifftio o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 27.9A

Rhiant-Ddeddf: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Bodlonwyd Gofynion y Sifft: Ni Nodwyd

Pn(5)012 – Rheoliadau Clefydau Egsotig mewn Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru, ym maes rheoli ac atal clefydau egsotig mewn anifeiliaid. Mae'r offeryn yn sicrhau y bydd yr is-ddeddfwriaeth sy'n berthnasol yng Nghymru sy'n ymwneud â rheoli ac atal clefydau egsotig mewn anifeiliaid yn parhau i fod yn weithredol yng Nghymru ar ôl i'r Deyrnas Unedig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

Cafodd y Rheoliadau hyn eu gosod at ddibenion sifftio o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 27.9A

Rhiant-Ddeddf: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Bodlonwyd Gofynion y Sifft: Ni Nodwyd

 


Pn(5)013 – Rheoliadau Dileu a Rheoli Afiechydon Milheintiol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae'r offeryn hwn yn diwygio Rheoliadau Milheintiau (Monitro) (Cymru) 2007 a Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010.  Nod y newidiadau hyn yw sicrhau bod y llyfr statud yn parhau i fod yn weithredol ar ôl ymadawiad y DU â'r UE, a byddant yn mynd i'r afael â diffygion mewn deddfwriaeth ddomestig sy'n deillio o ymadawiad y DU â'r UE.

Mae Rheoliadau Milheintiau (Monitro) (Cymru) 2007 yn rhoi pwerau i arolygwyr fynd i mewn i unrhyw fangre i fonitro milheintiau ac ymwrthedd gwrthficrobaidd i gyfryngau sy'n bygwth iechyd y cyhoedd.  Mae rheoliad 3 yn cynnwys cyfeiriad at benodi awdurdod cymwys at ddibenion y Gyfarwyddeb.  Gan na fydd y Gyfarwyddeb honno'n rhan o'r gyfraith ddomestig ar y diwrnod ymadael, dilëir y cyfeiriad hwnnw. Gwneir mân newid drafftio hefyd ynghylch ystyr "Cyfarwyddeb". Yn dilyn y newid hwn, mae'r unig gyfeiriad ati yn rheoliad 2(2).   Mae rheoliad 5 o Reoliadau 2007 yn galluogi arolygydd sy'n arfer pŵer mynediad o dan Reoliadau 2007 i gymryd gydag ef gydag unrhyw gynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd.  Un enghraifft lle gallai hyn ddigwydd yw archwiliad gan yr UE o allu ym maes milheintiau.  Yn dilyn ymadawiad y DU, ni fydd gan y Comisiwn Ewropeaidd ddiddordeb yn y gweithgareddau hyn, ac felly dilëir y cyfeiriad hwnnw.  Fodd bynnag, nid yw pwerau'r arolygwyr yng Nghymru yn newid fel arall, a bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau'r un ddarpariaeth o ran presenoldeb a dyletswyddau arolygwyr er mwyn sicrhau bod rheolaethau effeithiol yn parhau i fod yn weithredol mewn perthynas â'r gadwyn fwyd a bwyd anifeiliaid.

Mae Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010 yn gweithredu Cyfarwyddeb 64/432/EEC ynghylch problemau iechyd anifeiliaid sy'n effeithio ar fasnach fewnol y Gymuned mewn anifeiliaid buchol a moch ("Cyfarwyddeb 64/432/EEC"), yn enwedig mewn perthynas â dileu Twbercwlosis. Mae Cyfarwyddeb 64/432/EEC yn pennu rheolau ynghylch statws iechyd mewn perthynas â chlefydau anifeiliaid, gan gynnwys twbercwlosis, a darpariaethau ar gyfer y profion i'w cynnal gan filfeddygon swyddogol i ganfod y clefydau hyn.  Mae'r broses o orfodi'r rheolau hyn yng Nghymru yn cael ei grymuso yng Nghymru yn bennaf drwy Orchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010. Mae'r Gorchymyn yn diffinio "statws heb dwbercwlosis" drwy gyfeirio at y Gyfarwyddeb. Y cysyniad o "statws heb dwbercwlosis" yw'r gwrthwyneb i'r cysyniad o fuches gyfyngedig, ac felly gwneir newidiadau priodol i adlewyrchu hyn yn y Gorchymyn.

Cafodd y Rheoliadau hyn eu gosod at ddibenion sifftio o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 27.9A

Rhiant-Ddeddf: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Bodlonwyd Gofynion y Sifft: Ni Nodwyd

 

Pn(5)014 – Rheoliadau Maethiad (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Gwneir yr offeryn hwn drwy ddefnyddio'r pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno, er mwyn mynd i'r afael â'r methiant wrth weithredu'n effeithiol gyfraith yr UE a ddargedwir, neu unrhyw ddiffygion sy'n deillio o ymadawiad y DU â'r UE.

Mae'r Rheoliadau yn gwneud gwelliannau i is-ddeddfwriaeth Cymru ym maes maeth.

Mae'r newidiadau mân a thechnegol a wneir gan yr offeryn wedi eu llunio i sicrhau bod y ddeddfwriaeth ddomestig sy'n rhoi effaith i ddeddfwriaeth yr UE a ddargedwir (Rheoliadau Cymru) yn parhau i weithredu'n effeithiol. Mae'r newidiadau a wneir yn cynnwys cael gwared ar gyfeiriadau at "aelod wladwriaeth", cyfraith/rhwymedigaethau'r UE a diffiniadau o "Gytundeb yr AEE", "Gwladwriaeth AEE", a "dosbarthu rhydd mewn aelod wladwriaethau". Mae'r newidiadau hefyd yn amcanu i wirio'r cyfeiriadau at Gyfarwyddebau'r UE pan fo angen, a disodli cyfeiriadau at gyrff yr UE gydag enwau awdurdodau cymwys y DU.

Cafodd y Rheoliadau hyn eu gosod at ddibenion sifftio o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 27.9A

Rhiant-Ddeddf: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Bodlonwyd Gofynion y Sifft: Ni Nodwyd